Hafan > Digwyddiadau
DIGWYDDIADAU SIFIG
DYDD SUL DINESIG
Bu i Faer Llandudno, y Cyng. Angela O’Grady gynnal ei dathliad Dydd Sul Dinesig ar ddydd Sul, Gorffennaf yr 28ain 2019. Bu i’r diwrnod ddechrau gyda gorymdaith wedi’i harwain gan Fand Tref Llandudno. Bu i’r Maer, y Cynghorwyr, Urddasolion dinesig, mudiadau milwrol, sifilaidd a chymunedol orymdeithio at y gofeb rhyfel er mwyn gosod torch arni. Yna aeth yr orymdaith yn ei blaen tuag at Eglwys Gatholig ‘Our Lady Star of the Sea’ ar gyfer y Gwasanaeth Dinesig wedi’i lywyddu gan Gaplan y Maer, Y Tad Parchedig Moses Amune, msp. Ar ôl y gwasanaeth, bu i’r orymdaith ail-ffurfio a dychwelyd i Neuadd y Dref, lle bu i’r Maer dderbyn y saliwt, cyn mynd rhagddi i Westy San Siôr am ginio. Y ogystal â’r Cynghorwyr ac Urddasolion dinesig, bu i gynrychiolwyr o nifer o fudiadau gwirfoddol a chymunedol yn Llandudno fynychu’r cinio hefyd fel diolch iddyn nhw am yr holl waith maen nhw’n ei gyflawni drwy gydol y flwyddyn yn y gymuned. Roedd y Maer yn arbennig o falch i groesawu Mr A Hughes o’r Amgueddfa ‘Home Front’ a Mr A Rigby, fel ei siaradwyr gwadd.
GORYMDAITH Y NADOLIG
Cyfieithiad i ddilyn...
Due to Covid-19, the Llandudno Christmas Parade for 2021 is currently under discussion and this page will be updated in due course.
If the event does go ahead it will take place on Saturday, 4th December 2021.
TÂN GWYLLT
Cyfieithiad i ddilyn...
This year’s event is scheduled to be held on Sunday 7th November 2021 at 18:20pm from North Shore beach, Llandudno.
Should the weather be adverse on the Sunday, the back-up date is Monday 8th November 2021 at 19:00pm.
Please note that both dates are subject to the weather permitting, and subject to change or cancellation if there is any change to Covid-19 regulations.
This beach event is very tide dependent, with up to 1.5 hours being required in advance of the display to safely set up on the beach (at around 150 metres from the promenade) and a suitable time following the approximate 20-minute display to safely remove equipment from the beach. Tides and operating times are, therefore, carefully, and thoroughly assessed.
In 2021, these are the closest dates to the 5th of November at which the tide time and range is most favourable and safe to operate.
Council would be appreciative:
- Of any donations on the night towards the display. Collectors will be out and about on the promenade with collecting buckets.
- If social distancing could please be observed.
- Please note that fireworks (including sparklers) are not permitted within the event site.
For latest updates please see the Fireworks Facebook page
Click here to download the Llandudno Fireworks Display poster

GEFEILLIO
Ers 1988, mae Llandudno wedi'i gefeillio gyda thref Wormhout yng ngogledd Ffrainc. Mae'r Cyngor Tref yn cefnogi ac yn trefnu ymweliadau diwylliannol rhwng Llandudno a Wormhout bob blwyddyn er mwyn rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd sydd â diddordeb ddod i adnabod a dod yn ffrindiau gyda'n cymheiriaid Ffrengig.
Cyfnewid o Wormhout
Mae ychydig dros 50 o bobl o Wormhout yn teithio i Landudno am benwythnos o letygarwch gyda theuluoedd lletyol sy’n gwirfoddoli i roi llety i'r teuluoedd Ffrengig yn ystod eu hymweliad. Mae'r ymweliad fel arfer yn digwydd ym mis Ebrill gyda llawer o ymweliadau yn ac o gwmpas Llandudno wedi'u trefnu yn ystod y penwythnos.
Taith Bêl-droed Wormhout
Bob blwyddyn, ym mis Mai fel arfer, caiff tîm o 20 o ddisgyblion o ysgolion cynradd lleol, gyda'u hathrawon, eu gwahodd i gystadlu yn Nhwrnamaint Bêl-Droed Iau Ryngwladol Wormhout. Yn ogystal â chymryd rhan yn y twrnamaint, mae'r disgyblion yn gallu ymgolli yn hanes y dref a'r ardaloedd cyfagos.
Ymweliad mis Gorffennaf i Wormhout
Bob mis Gorffennaf, caiff ymweliad i Wormhout ei drefnu er mwyn cyd-daro gyda gŵyl gerddoriaeth a charnifal Wormhout, gyda thua 55 o bobl o Landudno yn mynd ar y daith. Mae pawb sy'n mynd ar y daith yn cyfrannu tuag at gost y daith. Mae teuluoedd lletyol Ffrengig a Chyngor Tref Wormhout yn darparu llety. Mae'r rheiny sy'n mynd ar y daith yn gallu dysgu am hanes Wormhout a thalu teyrnged i'r rhai roddodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn arbennig rheiny fu farw yn ystod lladdfa Wormhout yn 1940.
Yn anffodus ni fu modd inni gynnal ymweliadau Gefeillio Trefi yn 2020 a 2021 yn sgil y pandemig Covid-19. Fodd bynnag, rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o’n Tref Gefeilliol ac ymweld â Wormhout yn y man, unwaith caiff cyfyngiadau Covid-19 eu lleddfu.