Hafan > Maerol > Crïwr y Dref

Billy Baxter, Town Crier of Llandudno

Billy Baxter, Town Crier of Llandudno

Mae Cyngor Tref Llandudno wedi penodi Mr Billy Baxter yn Grïwr tref Llandudno. Er nad ydy hon yn swydd gyflogedig fel y cyfryw, caiff y crïwr tref gyfraniad bychan i gydnabod ei ddyletswyddau, sy’n cynnwys y canlynol:

  • To promote the town locally and further afield

  • Cefnogi mudiadau, elusennau a grwpiau lleol drwy fynychu seremonïau a gweithgareddau yn ogystal ag agor digwyddiadau a busnesau newydd pan maen nhw’n gofyn iddo wneud hynny

  • Cyflwyno rôl y Crïwr Tref

  • Cerdded o gwmpas y dref yn croesawu trigolion ac ymwelwyr

  • Bloeddio cyhoeddiadau yn rheolaidd er mwyn hysbysebu digwyddiadau ac achlysuron fydd yn y dref

  • Cefnogi’r Maer a mynd i ddigwyddiadau sifig yn y dref

Mae Billy yn gyn Rhingyll Staff a fu’n gwasanaethu gyda Gynnau Mawrion y Ceffylau Brenhinol am bron i 21 o flynyddoedd cyn iddo golli ei olwg ym 1997 tra’r oedd yn gwasanaethu ym Mosnia. Fe symudodd i Landudno er mwyn gweithio ar gyfer Cyn-Filwyr Deillion Prydain fel Swyddog Cyswllt Adfer a Hyfforddi.

Mae Billy yn briod â Karen ac mae ganddyn nhw 3 o blant sydd bellach yn oedolion a 4 o wyrion ac wyresau. Mae ganddo lawer o ddiddordebau sy’n cynnwys marchogaeth, sgïo, dringo a physgota môr. Fo sy’n dal y record cyflymder ar gyfer beicio modur unigol y dall a bu ar raglen Top Gear yn gyrru “car pris rhesymol”. Mae o hefyd yn gweithio yng nghastell Bodelwyddan gyda thîm ymchwilio’r goruwchnaturiol yn mynd ag ymwelwyr ar deithiau tywys.

Wrth siarad am ei benodi, fe ddywedodd Billy: “Rydw i’n hynod o falch o gael gwasanaethu fy ngwlad yn ogystal â Llandudno, y dref sydd wedi rhoi anrhydedd y rôl yma i mi. Rydw i’n hoff iawn o bobl ac yn mwynhau gwneud iddyn nhw wenu.’ Billy ydy’r unig grïwr tref dall yn Ewrop ac yr ail yn hanes Prydain. Y Crïwr dall diweddaraf oedd Joseph Howarth o Oldham a fu’n grïwr rhwng 1820-1860, roedd o’n ddall ers ei eni.

Os gwelwch chi Billy yn cerdded o gwmpas y dref, cofiwch ddweud helo.

Os ydych chi am wahodd y Crïwr Tref i ryw ddigwyddiad, cysylltwch â Dirprwy Glerc y Dref ar 01492 879130 neu drwy e-bost ar deputyclerk@llandudno.gov.uk