Hafan > Maerol > Y Maer

Y Maer a'r Faeres Y Cyng. Miss Angela O’Grady a'r Cyng. Mrs Janet Jones

Y Maer a'r Faeres Y Cyng. Miss Angela O’Grady a'r Cyng. Mrs Janet Jones

Cafodd Maer newydd Llandudno, y Cyng. Miss Angela O’Grady ei phenodi’n swyddogol ar ddydd Gwener, Mai’r 24ain 2019. Bu’r seremoni yn yr Ystafell Gynnull, Neuadd Tref Llandudno a bu 100 o westeion yn dyst. Bu i Gyng. O’Grady dalu teyrnged i’r gyn Faer, y Cyng. David Hawkins a bu iddi estyn diolch iddo am ei holl waith caled ar ran y Cyngor yn ystod ei flwyddyn Faerol.

Bu i’r Maer oedd yn ymddeol, y Cyng. David Hawkins gynnig ei gefnogaeth i’r Maer newydd a dymuno blwyddyn lwyddiannus a llon yn y swydd. Cafodd y Cyng. Mrs Janet Jones hefyd ei phenodi fel y Faeres.

Digwyddiadau Maerol

Mae gan y Maer ddyddiadur prysur o ddigwyddiadau o achlysuron Dinesig yn Llandudno a threfi cyfagos i agor siopau a busnesau eraill, cyflwyno gwobrau mewn seremonïau cymdeithasol a chwaraeon ynghyd â mynychu digwyddiadau wedi’u trefnu gan grwpiau gwirfoddol a chymunedol.

Os hoffech chi wahodd y Maer i fynychu digwyddiad yr ydych yn ei drefnu, yna cysylltwch gydag Ysgrifennydd y Maer ar 01492 879130 neu anfonwch e-bost at deputyclerk@llandudno.gov.uk

Manylion Bywgraffiadol

Cefais fy ngeni yn Fairfield, Lerpwl ym 1958. Bu imi fynychu ysgol St Sebastians ar Ffordd Lockerby yn Fairfield. Fel teulu; mam, dad, chwiorydd a brodyr, bu inni symud i Gymru, Llandrillo yn Rhos, pan oeddwn i’n naw oed. Bu imi fynychu ysgol Llandrillo yn Rhos. Pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn i wrth fy modd gyda phob agwedd o’r traeth. Gwaetha’r modd, pan oeddwn i’n un ar ddeg mlwydd oed ac yn sgil digwyddiadau annisgwyl, rhaid oedd inni ddychwelyd i Lerpwl.

Fe ges i fy swydd gyntaf yn Ethel Austin yn 13 mlwydd oed a bu imi fynychu Ysgol St Margaret Clitherow, Ffordd Ullet. Pan adewais i’r ysgol yn bymtheg oed, bu imi ddod o hyd i swydd mewn archfarchnad o’r enw Discount Foods yn ardal Tuebrook yn Lerpwl. Pan gaeodd yr archfarchnad, bûm yn gweithio yn y Sinema Odeon fel tywyswraig a hefyd gweithio tymor ar Ynys Manaw. Bu imi hefyd gymhwyso fel gweithredwr Comptomedr.

Gan fy mod yn colli byw yng Nghymru gymaint, bu imi ddychwelyd yn ôl i fyw yn Neganwy ym 1983-84. Yna, wedi cyfnod byr yno, ym 1984-1985 bu imi symud ac ymgartrefu yn Llandudno. Fe ges i amrywiaeth o swyddi o gynorthwyydd ystafell, gwaith fel gweinyddes mewn caffi, derbynyddes, gwaith bar, gwaith mewn siop a hefyd fel technegydd Labordy. Bu imi hefyd weithio yn America fel mamaeth/au-pair.

Bu imi symud i Stad Tre Cwm (Ward Tudno) ym 1992 a bu imi roi geni i ddau o blant Carina a Daniel. Bûm yn gwirfoddoli yn y gymuned ers dros 25 mlynedd o fod yn wirfoddolwr mewn uned adfer yn ymwneud â chyffuriau ym Mae Colwyn ac fel mentor. Roeddwn hefyd yn wirfoddolwr yn ysgol fy mhlant, Craig y Don, a hefyd yn ysgol Tudno. Ym 1993, bu imi ddod yn aelod sefydlu ar ran yr Undeb Credyd ac rydw i hefyd yn aelod sefydlu ar ran canolfannau cymunedol Tŷ Hapus a Thŷ Llywelyn.

Ar hyn o bryd rydw i’n gwirfoddoli yng nghlwb Ieuenctid Tŷ Llywelyn, y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol a Chlwb Pêl Droed Llandudno. Wrth gwrs rydw i hefyd yn Gynghorydd Tref gwirfoddoli wedi imi gael fy ethol ar y Cyngor Tref yn 2008. Rydw i’n weithiwr ieuenctid a gweithiwr chwarae cymwys. Bu imi ennill gradd mewn Polisïau Cyhoeddus a Chymdeithasol ynghyd â chymhwyster lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fy ngwaith llawn amser erbyn ydy gofalwr llawn amser / gweithiwr cefnogol yn y cartref ac rydw i’n mwynhau’r gwaith yn fawr.

PRESS RELEASE: Mayoral Visit to Llandudno Bowling Club - 30th July 2020 (Saesneg yn Unig)