Hafan > Y Cyngor > Pwyllgorau ac Is Pwyllgorau
Mae holl gyfarfodydd y Cyngor Tref a’i bwyllgorau yn agored i’r cyhoedd. Mae rhaglenni’r cyfarfodydd ar hysbysfwrdd y Cyngor Tref y tu allan i Neuadd y Dref.
Oherwydd bod grymoedd penodol wedi eu dirprwyo i’r Pwyllgorau sy’n caniatáu iddyn nhw weithredu ar benderfyniadau, mae pob cynghorydd tref hefyd yn aelod o bob pwyllgor oni fo nhw’n dweud fel arall.
Twristiaeth a Gwasanaethau Cymunedol
Yn cwrdd nos Fawrth am 7yh. 18 aelod ar hyn o bryd.
Cadeirydd 2020/21: Y Cyngh A Bertola
Is-gadeirydd: Y Cyngh Mrs M Wigzell
-
Mae’r Pwyllgor Twristiaeth a Gwasanaethau Cymunedol yn bwyllgor cyfansoddiadol sefydlog o Gyngor Tref Llandudno.
-
Mae’r Pwyllgor yn goruchwylio’r gwaith o reoli unrhyw ddarn o dir, cofeb, goleuadau addurnol, tai bach cyhoeddus a dodrefn stryd mae’r Cyngor Tref yn gyfrifol amdanyn nhw.
-
Mae’r Pwyllgor hefyd yn gyfrifol am roi sylw i’r gwasanaethau a’r cyfleustodau hynny sy’n effeithio ar y gymuned yn gyffredinol. Mae hefyd yn cefnogi haenau eraill o lywodraeth leol lle bo’n briodol, gan gynnwys hamdden a thwristiaeth, yr amgylchedd, adloniant a’r celfyddydau, ailgylchu a chasglu gwastraff, trefn gyhoeddus a diogelwch cymunedol a digwyddiadau a mudiadau cymunedol.
-
Mae’ n ymateb ar ran y Cyngor Tref i ddogfennau ymgynghorol sy’n berthnasol i waith y Pwyllgor.
-
Mae’n goruchwylio digwyddiadau cymunedol yn Llandudno.
-
Mae modd i’r Pwyllgor Twristiaeth a Gwasanaethau Cymunedol benodi is bwyllgorau neu bwyllgorau gwaith i hwyluso gwaith y Pwyllgor.
Y Prif Is Bwyllgorau / Pwyllgorau Gwaith
-
Miss Alice (Cadeirydd – Y Cyngh Mrs Janet Jones)
-
Goleuadau Addurnol (Cadeirydd - i'w gadarnhau)
-
Llandudno yn ei blodau (Cadeirydd - Y Cynghr Mrs Louise Emery)
-
Gorymdaith y Nadolig (Cadeirydd - Y Cynghr A Bertola)
-
Gefeillio (Cadeirydd – Y Cynghr Greg J T Robbins)
-
Y Pwyllgor Gwaith Tân Gwyllt (Cadeirydd - Y Cynghr Mrs C Marubbi)
-
Pwyllgor Gwaith Gwella Canol y Dref (Cadeirydd - Y Cynghr Mrs M Lyon)
Aelodaeth y Pwyllgor 2020/21
Cllr Mrs C Beard, Cllr A W Bertola, Cllr B B Bertola, Cllr F Bradfield, Cllr F Davies, Cllr Mrs L G Emery, Cllr D J Hawkins, Cllr S R Hillman, Cllr M Hold JP, Cllr Mrs J Jones, Cllr Mrs M Lyon, Cllr Miss C Marubbi, Cllr Miss A O’Grady, Cllr M J Pavey, Cllr M A Pearce, Cllr G J T Robbins, Cllr H T M Saville, Cllr Mrs M Wigzell.
Cynllunio a Thrafnidiaeth
Yn cwrdd ar nos Fercher cyntaf bob mis am 6:00 yr hwyr. 8 aelod ar hyn o bryd.
Cadeirydd 2020/21 Y Cynghr G J T Robbins
Is Gadeirydd Y Cynghr Ms Angie O’Grady.
-
Mae’r Pwyllgor Cynllunio a Thrafnidiaeth yn bwyllgor cyfansoddiadol sefydlog o Gyngor Tref Llandudno.
-
Yn ôl cyfraith gwlad mae’n rhaid ymgynghori gyda’r Cyngor Tref ynghylch ceisiadau cynllunio fydd yn effeithio ar y dref. Yn hyn o beth mae’r Pwyllgor Cynllunio yn cwrdd i edrych ar bob cais cynllunio perthnasol sy’n mynd gerbron Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - yr awdurdod cynllunio lleol. Mae’r Pwyllgor yn trafod pob cais ac yna’n rhoi gwybod i’r Cyngor Sir a ydyn nhw argymell naill ai ei gymeradwyo neu ei wrthod. Rhaid i’r penderfyniad fod yn seiliedig ar resymeg gynllunio.
-
At hyn, mae grymoedd wedi eu dirprwyo i’r Pwyllgor sy’n caniatáu iddo ymateb ar ran y Cyngor Tref i unrhyw gais yn ymwneud a gwaith cadwraeth coed, torri coed neu unrhyw fater arall yn ymwneud â choed a gorchmynion gwarchod coed. At hyn, fe all ymateb i unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad gan yr Arolygiaeth Gynllunio a pharatoi datganiadau i’w hanfon at yr Arolygiaeth. Bydd y Pwyllgor hefyd yn cynghori ar ymatebion mewn perthynas â Chynllun Datblygu Lleol Conwy ac yn ymateb i ymgynghoriadau mewn perthynas â’r amgylchedd adeiledig, ffyrdd a phriffyrdd, diogelwch ar y ffordd, llwybrau troed, parcio, rheoli traffig a rheoliadau’n ymwneud â hynny.
-
Mae’n bosib i’r Pwyllgor Cynllunio a Thrafnidiaeth benodi is-bwyllgorau neu bwyllgorau gwaith i hwyluso gwaith y Pwyllgor.
Is-bwyllgorau:
-
Trafnidiaeth a Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cadeirydd - Y Cynghr HTM Saville)
Aelodaeth y Pwyllgor 2020/21
Cllr A W Bertola, Cllr Mrs C Beard, Cllr F Bradfield, Cllr F Davies, Cllr Mrs J Jones, Cllr Miss C Marubbi, Cllr Miss A O’Grady, Cllr G J T Robbins.
Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol
Yn cwrdd nos Wener am 7yh. 19 aelod ar hyn o bryd.
Cadeirydd 2020/21 Y Cynghr F Bradfield
Is-gadeirydd Y Cyngh David J Hawkins
-
Mae’r Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol yn bwyllgor cyfansoddiadol sefydlog o Gyngor Tref Llandudno
-
Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am bob agwedd o waith gweinyddu ariannol y Cyngor, gan gynnwys: incwm, gwariant, y cyfrifon ac archwiliadau ariannol, rheoliadau ariannol a materion cyfreithiol a chytundebol.
-
Mae’r Pwyllgor hefyd yn cynghori’r Cyngor ynglŷn ag amcangyfrif gwahanol elfennau’r gyllideb flynyddol ac ynghylch faint o Archebiant i’w godi bob blwyddyn.
-
Mae’n penderfynu ar bolisïau a strategaethau corfforaethol ac ar faterion yn ymwneud â staff a chyflogaeth
-
Mae’n pwyso a mesur ceisiadau grant
-
Mae’n datblygu ac yn cynnal a chadw cyfleusterau technoleg gwybodaeth y Cyngor.
-
Mae modd i’r Pwyllgor Ariannol a Dibenion Cyffredinol benodi is-bwyllgorau neu bwyllgorau gwaith i hwyluso gwaith y Pwyllgor.
Yr is-bwyllgorau ariannol
-
Sifig (Cadeirydd – Y Cynghr F Davies)
-
Grantiau (Cadeirydd – i'w gadarnhau)
-
Staff (Cadeirydd – Y Cynghr Mrs C Marubbi)
Aelodaeth y Pwyllgor 2020/21
Cllr Mrs C Beard, Cllr A W Bertola, Cllr B B Bertola, Cllr F Bradfield, Cllr F Davies, Cllr Mrs L G Emery, Cllr P C Evans JP, Cllr D J Hawkins, Cllr S R Hillman, Cllr M Hold JP, Cllr Mrs J Jones, Cllr Mrs M Lyon, Cllr Miss C Marubbi, Cllr Miss A O’Grady, Cllr M J Pavey, Cllr M A Pearce, Cllr G J T Robbins, Cllr H T M Saville, Cllr Mrs M Wigzell.